popeth

Popeth yw project cerddorol Ynyr Roberts, a phwyslais ar gydweithio i gynhyrchu Pop Cymraeg i’r byd! Mae’n broject blaengar a chynhwysol a’r caneuon sydd wedi eu cyfansoddi yn llenwi’r gofod yn sîn gerddoriaeth Gymraeg am Bop disglair a phositif.
O ‘Acrobat’ i ‘Zodiacs’ ... mae caneuon Popeth wedi derbyn cefnogaeth wresog gan DJs Cymru - o glywed y caneuon ar y radio, y teledu ac mewn stadiwms dros y wlad! Mae’r syniad o roi llwyfan i leisiau newydd cyffrous i’r sîn yn ogystal a chydweithio â lleisiau cyfarwydd drwy gyfrwng Pop-Disco wedi profi yn arbrawf boblogaidd sydd am brofi blwyddyn cynhyrchiol i ddod!
Arweiniodd brwdfrydedd ac alawon bachog Popeth at enwebiad ar gyfer Gwobr AIM (cerddoriaeth annibynnol) yn Roundhouse Llundain yn ystod hydref 2024.
Darllennwch fwy FAN HYN:
CYSYLLTU
Cysylltwch drwy lenwi'r ffurflen neu mae croeso i chi gysylltu trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Facebook, Insta, Tiktok, Twitter a Youtube.
Edrych ymlaen i glywed gen chi!
