popeth
Sgroliwch lawr i ddarllen fesul cân / Scroll to read song by song ...
Golau sydd, fel diwrnod newydd,
fel newid meddwl am arferion gwael.
Deffro i 'run sŵn 'run celwydd,
gad bethau'n rhydd, yn lle bod nhw'n gaeth.
Cofia bod ‘na olau disglair,
golau sydd 'na i ti a fi.
Cofia bod yn olau i rywun,
rhywun sydd dan gwmwl du.
Yn y golau, yn y golau,
welest ti'r atebion i'r cwestiynau.
Yn y golau yn y golau
bod dy hun, a bod ar dy orau.
Golau sydd fel munud lonydd,
paid taflu cysgod dros dy ddyddiau pur.
Deffra'n syth i fyd o liwiau,
mae 'na enfys yn yr awyr glir.
​
Cofia bod 'na olau disglair,
golau sydd 'na i ti a fi.
Cofia bod yn olau i rywun,
rhywun sydd dan gwmwl du.
Yn y golau, yn y golau,
welest ti'r atebion i'r cwestiynau.
Yn y golau yn y golau,
bod dy hun, a bod ar dy orau.
Rho dy hun i dderbyn cariad,
yn dy hun mae’r nerth i bob dydd.
Teimla’r hud sy’n byw mewn hyder,
Gad dy hun i fod yn rhydd.
Yn y golau, yn y golau,
welest ti'r atebion i'r cwestiynau.
Yn y golau yn y golau,
bod dy hun, a bod ar dy orau.
​
Yn y golau, yn y golau,
weles di'r atebion i'r cwestiynau.
Yn y golau yn y golau,
bod dy hun, a bod ar dy orau.
Amser am newid, amser i ddeffro,
ti'n gweld dy gyfle i fentro.
Mond drwy symud 'mlaen daw syniadau'n wir.
Amser i blannu, amser i fedi,
daw'r hedyn yn ffrwyth da i'w flasu
Mond drwy wneud un newid daw pethau yn glir.
Un newid bach yn gwneud byd o wahaniaeth.
Un newid bach yn gwneud lles.
Un newid bach yn gwneud byd o wahaniaeth.
Beth am neud y newid er gwell?
Beth am neud y newid er gwell?
Amser am newid, amser i arwain,
symud yn lle aros yn dy unfan.
Mond drwy droi'r dudalen cei wybod be fydd.
Un newid bach yn gwneud byd o wahaniaeth.
Un newid bach yn gwneud lles.
Un newid bach yn gwneud byd o wahaniaeth.
Beth am neud y newid er gwell?
Beth am neud y newid er gwell?
Teimla wres y tân.
Clywa nodau'r gân.
Dim esgusion i newid dy farn.
Dewis cau y llyfr neu
dewis bennod newydd
mae'r dewis wir yn un hawdd
a bydd newid bach, fel newid byd...
Un newid bach yn gwneud byd o wahaniaeth.
Un newid bach yn gwneud lles.
Un newid bach yn gwneud byd o wahaniaeth.
Beth am neud y newid er gwell?
Beth am neud y newid er gwell.
Pwy 'dw i?
Does dim ateb.
Dim ond rhes o gwestiynau a phethau dwi'n amau.
Yn y drych
Does dim ateb
'mond wynebu fy ofnau o fyw yn y golau.
Pwy wyt ti?
Pam ti’n cuddio?
Ti’n sefyll yna’n barod i’m temtio...
A dwi’n gaeth i ti.
Nawr dwi'n byw yn nhân dy gasineb
bron a marw ishe gweld dy wyneb.
Cam yn nes a’n cyrff yn cyfarfod
Ond mae blas y diafol ar dy dafod.
Blas y diafol ar dy dafod.
Tân, tân yn llosgi fy nghalon
Tân, tân sy’n rhwygo trwy’r noson.
Tân, tân yn llosgi fy nghalon
Dwi’n gwybod bydd ‘na boen,
A dagrau ar fy nghroen
Blas y diafol ar dy dafod.
I ble’r awn ni, lawr i Annwn?
I ddawnsio’n y cysgod a blasu pob pechod.
Mae’n rhy hwyr i ni guddio,
pam ei wrthod, pam ei rwystro...
Dwi’n gaeth i ni.
Nawr dwi'n byw yn nhân dy gasineb
bron a marw ishe gweld dy wyneb.
Cam yn nes a’n cyrff yn cyfarfod
Ond mae blas y diafol ar dy dafod.
Blas y diafol ar dy dafod.
Tân, tân yn llosgi fy nghalon
Tân, tân sy’n rhwygo trwy’r noson.
Tân, tân yn llosgi fy nghalon
Dwi’n gwybod bydd ‘na boen,
A dagrau ar fy nghroen.
Blas y diafol ar dy dafod.
Agor y drysau, cym’ eiliad i syllu,

pob dydd bydd na gyfle’n dod i’th ran.
Agor dy galon,
yna byw dy freddwydion,
cym' gam o’r cysgodion,
cam ymlaen.
​
Cad' dy ben uwchben y tonnau,
drwy’r stormydd drwy'r glaw.
Paid a derbyn bod na’m lle i fynd
fe ddaw na gyfle, ie, fe ddaw
​
Pan ti’n agor y drysau,
a ti’n datod y clymau,
mae na haul ar y gorwel
sydd yn olau i ti.
A ti’n agor y drysau,
ac yn dathlu bob cyfle,
mae na aur ar y gorwel
sydd yn wobr i ti.
​
Agor y drysau, cym’ eiliad i anadlu
gna’n fawr o bob awr sy’n dod i’th ran.
Agor dy lygaid, a gweld y rhyfeddodau,
mond her, nid anhawster,
sydd ar gael.
Cad' dy ben uwchben y tonnau,
drwy’r stormydd drwy'r glaw.
Paid a derbyn bod na’m lle i fynd
fe ddaw na gyfle, ie, fe ddaw
Pan ti’n agor y drysau,
a ti’n datod y clymau,
mae na haul ar y gorwel
sydd yn olau i ti.
A ti’n agor y drysau,
ac yn dathlu bob cyfle,
mae na aur ar y gorwel
sydd yn wobr i ti.
​
Gadael byd sy’n llawn ansicrwydd.
Agor ddrws i gyfle newydd.
​
Pan ti’n agor y drysau,
a ti’n datod y clymau,
mae na haul ar y gorwel
sydd yn olau i ti.
A ti’n agor y drysau,
ac yn dathlu bob cyfle,
mae na aur ar y gorwel
sydd yn wobr i ti.
​
A ti’n agor y drysau,
a ti’n datod y clymau,
mae na haul ar y gorwel
sydd yn olau i ti,
A ti’n agor y drysau,
ac yn dathlu bob cyfle,
mae na aur ar y gorwel
sydd yn wobr i ti.
Sydd yn ddisglair i ti.
Sydd yn arwain ar lwybr newydd clir.
Acrobat –
dwi’n gwybod ’mod i’n saff
Acrobat – ti’n dal yn dynn i’r rhaff
Acrobat – dwi’n dal i ddisgyn
ond yn ara’ bach, mae’r risg yn teimlo’n dda –
dwi’n gwybod ’mod i’n saff...
Er mor anodd ar adegau,
mae’n anodd dal y pwysau,
a dal yn dynn pan mae pwysau ar fy ’sgwyddau.
Mae’n anodd gweld yr ateb,
pob diwrnod yn ystrydeb,
mi ddalia i’n dynn - dyna’r ymateb!
Dwi’n teimlo fel Acrobat
Acrobat – ar hyd un llinell syth
Acrobat – cuddio o olau dydd
Acrobat – yn croesi dros y ffin
Acrobat – heb amau dim...
... heb amau dim, dwi’n dal yn dynn...
Er mor anodd ar adegau,
mae’n anodd dal y pwysau,
a dal yn dynn pan mae pwysau ar fy ’sgwyddau.
Mae’n anodd gweld yr ateb,
pob diwrnod yn ystrydeb,
mi ddalia i’n dynn - dyna’r ymateb!
Dwi’n teimlo fel Acrobat!
Rhywle mae na galon yn curo
Oes na rywun yn gwrando?
Oes na rywun yn rhywle heno?
Rwy'n cerdded llwybrau maith
Chwilio am ateb ar hyd fy nhaith.
Dwed y geiriau, lliwia fy myd
Mae breuddwydion yn dod yn wir.
Dwi'n dianc o ddyddiau du
Heb gysur, heb obaith,
heb drywydd clir
mae'r ffordd yn hir, wyt ti yna i mi?
Rhywle mae na galon yn curo
Oes na rywun yn gwrando?
Rhywun yn rhywle heno,
rhywle heno?
Dwi'n ysu i'th gal di'n nes
Lle fues di'n cuddio
holl ddyddia fy oes?
Clyw fy ngeiriau, mwytha fy nghur
Mae breuddwydion yn dod yn wir.
Dwi'n dianc o ddyddiau du
Heb gysur, heb obaith,
heb drywydd clir
mae'r ffordd yn hir, wyt ti yna i mi?
Rhywle mae na galon yn curo
Oes na rywun yn gwrando?
Rhywun yn rhywle heno, rhywle heno?
Rhywle mae fy nghalon yn curo
wyt ti yno yn gwrando?
Rhywun yn rhywle . . .
Dwi'n galw arna chdi
Cydia'n fy nwylo i
a cherddaf gyda thi
Rhywle mae na galon yn curo
Oes na rywun yn gwrando?
Rywun yn rhywle heno...
Rhywle mae fy nghalon yn curo
wyt ti yno yn gwrando?
Rhywun yn rhywle.
Be fysa wedi digwydd tasa ti di gwrando’r gri,
Tasa ti di brathu’r afal,
di dawnsio hefo fi?
Dim boddi ym môr euogrwydd,
ond nofio hefo’r lli,
Gadael serch dy frathu
a dawnsio hefo fi.
Dal y gannwyll (llosgi'r nwyon)
Bod yn chdi (bod yn fodlon)
Dal y gannwyll oedd dy drosedd
Gwaed ein cariad ar dy fysedd...
Be fysa wedi digwydd,
taswn i heb ffoi i'r nos?
Gadael bwrdd y cardia noeth,
brenhines calon dlos.
Mae'r joker sy'n dy lawes,
yn chwerthin ar fy mhen,
A minnau wedi gamblo,
ffrind ‘di ffrind - Amen!
Dal y gannwyll (llosgi'r nwyon)
Bod yn chdi (bod yn fodlon)
Dal y gannwyll oedd dy drosedd
Gwaed ein cariad ar dy fysedd...
Be fysa wedi digwydd
tasa ti di blasu’r medd
‘Di meddwi yn fy mreichia,
sobri yn yr hedd?
Tanio matsian natur
a llyncu mŵg ein serch
Diolch a dam am beidio,
welai di eto ferch.
Dal y gannwyll (llosgi'r nwyon)
Bod yn chdi (bod yn fodlon)
Dal y gannwyll oedd dy drosedd
Gwaed ein cariad ar dy fysedd...
Dal y gannwyll,
dal yn wylo (dal yn wylo)
Dal y gannwyll,
dal yn wylo (dal yn wylo)
Dal y gannwyll (llosgi'r nwyon)
Bod yn chdi (bod yn fodlon)
Dal y gannwyll, dal yn wylo
Cyfle’n llithro drwy ein dwylo.
​
Geiriau Cân 8 (yma'n fuan)
Geiriau Cân 9 (yma'n fuan)