Enwebiad ETO yn AIM Awards 2025!
- Ynyr Roberts
- Sep 20
- 2 min read
DATGANIAD I'R WASG:
POPETH YN DERBYN ENWEBIAD YNG NGWOBRAU CERDDORIAETH ANNIBYNNOL PRYDEINIG - AIM 2025
Mae’n bleser gan Recordiau Côsh gyhoeddi bod Popeth, project y cyfansoddwr a’r cynhyrchydd Ynyr Roberts, wedi’i enwebu ar gyfer y wobr ‘Gwobr PPL am yr Artist Annibynnol Newydd a Chwaraewyd Fwyaf’ eto eleni yng Ngwobrau AIM 2025.
Ymysg yr enwebiadau eleni gyda artistiaid fel Bon Iver, Fontaines D.C., Chloe Qisha, Ezra Collective a Wet Leg, bydd seremoni Gwobrau AIM 2025 yn cael ei chynnal yn y Roundhouse, Camden, Llundain ar Nos Fawrth 23ain o Fedi.
“Prosiect gyda phwyslais ar gydweithio i gynhyrchu cerddoriaeth pop Cymraeg i’r byd ydi Popeth!” meddai Ynyr. “Mae’n brosiect blaengar a chynhwysol sy’n cyfansoddi caneuon clwb/dawns ddisglair a hapus o fewn sin cerddorol cyffrous a llewyrchus yma yng Nghymru. Mae derbyn enwebiad arall ar gyfer Gwobr AIM yn golygu cymaint i mi, ar y cam cynnar hwn o daith Popeth, a gobeithio bydd y sylw yn creu cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio a chyfansoddi cerddoriaeth newydd gyffrous yn y dyfodol.”
Ychwanega Ywain Gwynedd, sylfaenydd Recordiau Côsh: “Mae Popeth yn artist sy’n cynhyrchu alawon pop bachog. Mae’r rhan fwyaf o’r caneuon wedi rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd ganu a serennu ar y traciau, gan ddefnyddio’r gân fel sylfaen i ddechrau gyrfa eu hunain fel artistiaid unigol. Mae’r ethos hwn o gydweithio, a rhoi cyfle i artistiaid eraill i leisio’r caneuon, wedi gwneud Popeth yn artist difyr i’w dilyn - rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesa!”
Mae rhestr lawn Gwobrau AIM 2025 ar gael wrth GLICIO YMA.

PPL Award for Most Played New Independent Artist
Fat Dog (Domino Recording Co)
First Time Flyers (Lookout Mountain)
IN PARALLEL (Method 808)
NDOTZ (Chosen Flystr8)
Popeth (Recordiau Cosh Records)
Comments