Dwi wastad wedi hoffi cerddoriaeth bop - boed yn gerddoriaeth ddawns neu pop-electro.
Dwi'n mwynhau'r ffordd mae cerddoriaeth bop yn cael ei grefftu, ac yn aml mae'r ffordd mae'r gerddoriaeth hefyd yn cael ei gyflwyno'n weledol, yn apelgar iawn.
Y prif beth am y gerddoriaeth pop, yw ei fod yn aml yn llawn melodiau bachog, yn codi calon ac yn ysgogi emosiwn hapus neu oleia'n codi ysbryd rhywun.
Mae cerddoriaeth bop yn ddadleuol ym myd cerddorion proffesiynol. Mae rhai pobl yn bychanu cerddoriaeth bop, gan ei weld fel rhywbeth sydd ddim yn "ddifrifol" ag yn "ffwrdd-a-hi". Does gan eraill ddim problem gyda pop – iddyn nhw, adloniant yw holl bwynt cerddoriaeth, felly beth sydd o’i le ar ganeuon pop difyr?!
Efallai mai'r rheswm am y gwahaniaeth barn yw am bod cerddoriaeth bop yn aml wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer llwyddiant masnachol yn hytrach na dyfeisgarwch artistig - ond i mi, mae bob cân Popeth wedi ei gynhyrchu'n reddfol er mwynhad, er mwyn gwneud rhywbeth 'newydd', er mwyn bod yn greadigol - bron fel catharsis!
Daw rhai o'r caneuon pop mwyaf adnabyddus o'r 'genre' dawns-pop. Siwr mai'r rheswm am lwyddiant y math hwn o gerddoriaeth yw ei fod yn gweithio dda mewn clybiau nos tra hefyd yn sŵn sy'n cael ei glywed yn naturiol o'n cwmpas ni pob dydd - boed hynny ar y radio, ar y teledu neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae rhai o'n sêr pop cyfredol fel Lady Gaga a Sia wedi treulio blynyddoedd lawer yn gweithio y tu ôl i'r llenni cyn iddynt ddod i'r amlwg, a sêr fel Charli XCX a Christine and the Queens yn gwthio ffiniau cerddoriaeth bop. Yn ddiweddar mae llawer o gydweithio amlwg rhwng cerddorion Pop - llawer o "hits" artistiaid fel Rihanna a Dua Lipa yn ganeuon "collabs", a dyna ysbrydoliaeth arall i #Popeth!
Mae'n amser cyffrous i gerddoriaeth pop dros y byd - mae hyn yn wir am Gymru hefyd!! Edrych mlaen i gyfansoddi a rhyddhau mwy o #Collabs #PopCymraeg yn fuan!!
Pam pop? Pam lai?!
Comments